Dau faes yn y Deyrnas Unedig gyfoes lle mae tystiolaeth o anghydraddoldeb ethnig

Un maes yn y Deyrnas Unedig gyfoes lle mae tystiolaeth o anghydraddoldeb ethnig yw ym maes trosedd. Yn ôl yr adroddiad Ystadegau Swyddogol (2012/3) mae pobl o GLlE (grwpiau lleiafrifoedd ethnig) yn fwy tebygol o ddioddef o drosedd na phobl wen. Mae’r canran o bobl sy’n marw o lofruddio wedi gostwng (ac yn ei barhau). Er hyn, cododd y nifer o ddioddefwyr yn 2006/7, ond wedi gostwng eto rhwng 2009/12. Darganfyddiad gan y Comisiwn i Hawliau Dynol a Chydraddoldeb yw bod ifancwyr GLIE yn chwe gwaith yn fwy tebygol o gael eu ‘stopio ac archwilio’ gan yr heddlu na phobl wen. ‘Sunday Times’ – o fewn y deg mlynedd diwethaf, mae tua chwe chant o blant o GLIE dan deg mlwydd oed wedi cael eu stopio ac archwilio, fel arfer dan yr amheuaeth yr ydynt yn dal cyffuriau.

Ond mae Waddington yn gwrthddweud y syniad bod hwn yn fater o hiliaeth, ond yn lle mater o leoliad. Mae gorgynrychiolaeth o bobl GLIE mewn ardaloedd tlawd, er enghraifft, Hackney, ac mae’r heddlu yn targedu ardaloedd sy’n profi i fod yn llawer o risg.

Soniodd ‘y Guardian’, mae 40% o bob person yn y carchar yn dod o GLIE. Mae hyn yn fwy o gorgynrychiolaeth nag sydd yn America. Yn y 70au, roedd llawer yn stereoteipio bechgyn croenddu fel y prif rai sy’n gyfrifol am fygio er mwyn cymryd y ffocws y cyhoedd oddi wrth y problemau gwirioneddol. Roeddent yn cael eu defnyddio fel Bwch Dihangol y gymdeithas i gysgodi problemau megis diweithdra.

Daeth yr adroddiad Macpherson i’r casgliad bod yr heddlu yn esiampl o hiliaeth sefydliadol. Hyd yn oed y Comisiynwyr Uwch, Bernard Hogan-Howe, yr heddlu o’r farn mai hiliaeth sefydliadol yn broblem o fewn yr heddlu,  “If other people think we are institutionally racist, then we are ”. Ond mynegodd bod yr hiliaeth sy’n bodoli yn yr heddlu yn wrthrych i’r hiliaeth sydd yn y gymdeithas ehangach. Mae Baroness Young yn ffocysu ar bobl Asiaidd fel dioddefwyr hiliol o fewn yr heddlu. Mynegodd bod llai nag 1% o droseddau yn cael ei gyflawni gan Fwslimiaid yn y Deyrnas Unedig, ond er hyn, maent yn dal yn wynebu hiliaeth yn y gymdeithas, pwy sydd yn eu gweld fel “derfysgwyr”.

Maes arall yn y Deyrnas Unedig gyfoes lle mae tystiolaeth o anghydraddoldebau ethnig yw ym maes addysg. Yn ôl y ‘Sefydliad Joseph Rowntree’, y risg o dlodi yn uwch i bobl o Bacistan, Affrica a Bangladesh. Hefyd, mae cyfradd teuluoedd un rhiant yn uwch ymhlith pobl Afro-Caribiaidd (57%), lle mae’r gyfradd o 23% ymysg pobl wen Brydeinig. O ran amddifadedd diwylliannol, sy’n chwarae rhan enfawr mewn addysg plant, mae 83% o rieni o Bangladesh heb gymwysterau, gan gymharu gydag 14% o rieni gwyn Prydeinig. Mae plant o grwpiau lleiafrifol ethnig yn fel arfer yn siarad iaith wahanol i Saesneg yn cael ei siarad gartref. Gall hyn rhoi anfantais fawr arnynt hefyd yn yr ysgol. Credodd Ball bod rhieni o grwpiau lleiafrifol ethnig yn methu cael eu plant i mewn i ysgolion gwell oherwydd, i ychwanegu, yn ôl Bernstein, côd iaith eang gan athrawon a rhieni dosbarth canol. Felly mae gan blant dosbarth canol gwyn mwy o fantais.

Cyflwynodd yr adroddiad ESTYN (1993-1994) adroddiad a oedd wedi uwcholeio’r ffaith bod disgyblion ag ethnigrwydd Affro-Caribi yn ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu gwahardd o’r ysgol na ddisgyblion gwyn ac Asiaidd. Ffeindiodd Cole bod llyfrau hanes a daearyddiaeth yn annog credoau hiliol ac imperialaidd. Mae Wright yn atgyfnerthu credoau Cole. Cymerodd sylw ar ddau lyfr daearyddol yr 80au. Felly mae modd ddadlau bod hiliaeth sefydliadol ym maes addysg yn ogystal. Cytunodd Sewell gan ddweud bod llawer iawn o ddisgyblion o grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn gweld addysg mewn olau cadarnhaol, ond nid y system addysgol, felly nid yw eu hagweddau am eu hastudiaethau sy’n gadael iddynt i lawr, ond yr ysgolion yn benodol.

Mae’r cwricwlwm yn ogystal yn ethnocentrig yn ôl llawer o gymdeithasegwyr. Hynny yw, dim ond ieithoedd Ewropeaidd sy’n cael eu dysgu. Gall hyn rhoi rhai plant o grwpiau lleiafrifol ethnig anfantais.

Soniodd Gillborn bod athrawon yn trin disgyblion o grwpiau lleiafrifol ethnig yn wahanol oherwydd y stereoteipiau negyddol. Ffeindiodd Mac an Ghail tystiolaeth o stereoteipiau diwylliannol yn yr ysgol ar ochr yr athrawon. Hefyd y dywedir bod athrawon yn annog merched Affro-Caribi i wneud pynciau galwedigaethol yn hytrach na rhai academaidd. Cefnogodd Wright y syniad hwn i raddau trwy ddweud er bod athrawon yn credu’n gryf mewn gwaredu hiliaeth, ond mae gan lawer ohonynt hiliaeth fewnol, ac yn gweithredu stereoteipiau, megis y cred bod merched Asiaidd yn dawel iawn yn y dosbarth.