Gwerthusiad ar y safbwynt bod pob anghydraddoldeb yn anghydraddoldeb dosbarth

Mae nifer o anghydraddoldebau yn bodoli yn y gymdeithas. Mae’r Marcswyr yn cefnogi’r syniad bod gwraidd pob anghydraddoldeb yw anghydraddoldeb dosbarth. Mae hyn yn seiliedig ar y theori gwrthdaro, a chredon nhw fod y ‘Bourgeoisie’ (sef y dosbarth rheoli) yn defnyddio’r system gyfalafol i ecsploetio’r ‘Proletariat’ (y dosbarth gweithiol). Mae’r dosbarth rheoli yn mwynhau eu safle economaidd pwerus a’r rheolaeth sydd ganddynt dros y gweithwyr, felly maent yn eu gormesu nhw er mwyn sicrhau bod y sefyllfa yn parhau. Mae ganddynt ddylanwad ar ddiwylliant ac ar fywyd pob dydd oherwydd mae rheolaeth y dosbarth llywodraethol ar yr isadeiledd yw sail ei rheolaeth ar yr aradeiledd, megis y cyfryngau, ysgolion a gwasanaethau cyhoeddus. Yr aradeiledd sy’n gyfrifol dros atgyfnerthu’r anghydraddoldebau trwy gymdeithasoli cynradd ac eilradd, yn ôl y Marcswyr.

Nid yw’r dosbarth gweithiol yn ymateb i hyn oherwydd maent yn rhan o “ymwybyddiaeth ffug”. Hynny yw, maent yn ymwybodol o’r sefyllfa wirioneddol wrth feddwl bod y gymdeithas yn feritocrataidd. Dywedodd Althusser bod ysgolion yw “y peiriannau mawr sy’n creu mythau”, ac un o rheiny yw bod y gymdeithas yn feritocrataidd. Yr “offer ideolegol y wladwriaeth”, felly’r aradeiledd sy’n rheoli syniadau, er enghraifft y cyfryngau, yw’r peth sy’n creu’r gred hon.

Un maes lle mae yna dystiolaeth o anghydraddoldeb ar sail dosbarth yw ym maes addysg. Yn ôl yr Adran Addysg a Sgiliau, mae yna gysylltiad rhwng dosbarth cymdeithasol a chyrhaeddiad addysgol. Yn 2005, er enghraifft, llwyddodd 76% o blant o gefndiroedd proffesiynol uwch i gael 5 neu ragor TGAU A* i C, o’i gymharu â dim ond 32% o gefndiroedd gweithwyr cyffredin. Er gwaethaf y ffaith bod cyraeddiadau pob plentyn wedi gwella mae’r bwlch yn parhau i dyfu ac mae’r anghydraddoldebau dosbarth cymdeithasol hyn o ran cyrhaeddiad addysgol yn fwy amlwg nag erioed. Mae’r ystadegau hyn yn atgyfnerthu’r cysylltiad clir rhwng cyfalaf diwylliannol a chyrhaeddiad academaidd.

Yn ôl Bowles a Gintis, mae plant, yn bennaf y rhai o gefndiroedd tlawd, yn dysgu sut i ufuddhau i’r system annheg ac i dderbyn y ffaith eu bod yn ddi-rym. Honnir y mae ysgolion yn atgyfnerthu anghydraddoldeb trwy annog plant i aros yn eu dosbarthiadau cymdeithasol, megis annog plant dosbarth gweithiol i gael swydd gyffredin, ac yn yr un modd, annog plant o ddosbarth canol i gael swydd broffesiynol, megis ym musnes. Astudiodd Paul Willis yn ei astudiaeth “Lads ac Ear’oles” agweddau a chyfleoedd gwahanol ymysg dosbarthiadau cymdeithasol. Edrychodd Willis ar fechgyn ysgol uwchradd yn y 70au, gan gymryd sylw’n benodol ar fechgyn o ddosbarth gweithiol. Daeth i’r casgliad mae plant o gefndiroedd llai cyfoethog yn fwy tueddol o gael agweddau gwael am addysg ac yn fwy tebygol o chwarae cwmpas yn yr ystafell dosbarth. Yn y pendraw, bydd ganddynt llai o lwyddiannau addysgol ac yn fwy tueddol o dderbyn swyddi o statws isel. Maes arall lle mae tystiolaeth o anghydraddoldeb ar sail dosbarth yw ym maes iechyd. Yn ôl y ‘World Health Organisation’, mae dynion yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn dueddol o fyw tua naw blwyddyn yn llai na dynion yn yr ardaloedd mwyaf gyfoethog. Yn yr un modd, mae gan fenywod yn yr ardaloedd tlotaf disgwyliad oes o tua 7 mlynedd yn llai na menywod yn yr ardaloedd mwyaf cyfoethog.

Mae’r dosbarth gweithiol yn fwy tebygol o gael ymborth gwael, a gall hyn arwain at ordewdra, neu unrhyw anhwylderau bwyta eraill. Mewn rhai sefyllfaoedd, gall hyn arwain at fwlio yn yr ysgol, ac felly byddent yn cymryd llai o sylw tuag at eu pynciau academaidd. Problemau iechyd hefyd yn gallu gwaethygu iselder, ac mae hyn yn arwain at yr un casgliadau. Mae Wilkinson yn cefnogi’r cysylltiad hyn trwy honni bod perthynas sy’n gallu cael ei mesur rhwng iechyd gwael ac incwm. Yn ôl yr Arolwg Cartrefi Cyffredinol 1999, mae 32% o aelodau’r cartrefi heb waith yn dweud bod afiechydon cronig arnyn nhw, gan gymharu â 12.5% o’r rhai mewn cartrefi â gwaith. Mae pobl dosbarth gweithiol efallai’n methu fforddio presgripsiynau i sicrhau iechyd da. Y rwyf yn ystyried y ffaith bod hon yn berthnasol i Loegr yn unig. Mae gan Gymru, Iwerddon ac yr Alban cyfreithiau gwahanol. Mae rhai o’r farn mai iechyd preifat yn cynnig triniaeth well, ac os yr ydym yn ystyried hyn, mae hyn yn rhoi pobl dosbarth gweithiol anfantais oherwydd nid oes ganddynt yr un mynediad at iechyd fel y dosbarthiadau cymdeithasol mwy cyfoethog.

Yn ôl adroddiad gan ‘King’s Fund ThinkTank’, mae’r rhai sydd heb/llai o gymwysterau (sy’n fwy tueddol o ddod o’r dosbarth gweithiol) yn fwy tebygol o ysmygu, yfed a chael problemau iechyd. Mae modd dadlau bod hyn oherwydd mae gan y dosbarth gweithiol llai o arian i fedru fforddio prynu bwydydd iachus, ac yn lle yn gorfod prynu bwydydd sy’n llawn siwgr. Yn ogystal mae ganddynt llai o fynediad at wybodaeth a dealltwriaeth am fwydydd afiachus, felly mae diffyg ymwybyddiaeth yn gallu chwarae rhan enfawr ynddo fe.

Gall anghydraddoldebau dosbarth esbonio diffyg cyrhaeddiad nifer o leiafrifoedd ethnig o fewn y system addysg a’r gymdeithas ehangach. Mae canran anghyfartal o garcharwyr o grwpiau lleiafrifoedd ethnig ac mae nifer ohonynt hefyd yn dioddef o amddifadedd materol a diwylliannol. Mae tua 49% o’r holl garcharwyr gydag ethnigrwydd croenddu (yn ôl ‘Prison Reform Trust’), ac mae 57% o deuluoedd Affro-Caribi yn un rhiant, gan gymharu gyda 23% o bobl wen. Yn gyffredinol, mae plant o grwpiau lleiafrifol ethnig yn dueddol o wneud yn waeth yn yr ysgol, ac mae nifer fawr ohonynt yn derbyn prydau ysgol am ddim (PYADd). Mae 38% o blant Pacistani yn derbyn PYADd, a 58% o blant Bangladeshi, 26% o fyfyrwyr Affro-Caribi, a 41% o ddisgyblion Affricanaidd ddu. Yn y byd gwaith, gwelir mai y pobl Affro-Carribi sy’n profi’r cyn lleied o symudiad cymdeithasol ac sydd fel arfer yn ddi-waith. Gall hyn esbonio’r lefelau trosedd (yn ôl y theori straen Merton, lle mae pobl yn troseddu oherwydd rhwystredigaeth statws), a hefyd maent yn cael eu gorfodi i droi at drosedd er mwyn goroesi. Felly, mae lleiafrifoedd ethnig yn gwneud yn waeth yn yr ysgol oherwydd eu bod yn fwy tebygol o ddod o’r dosbarth gweithiol. Hefyd maent yn fwy tebygol o droi at drosedd am yr un rhesymau.

Mae’r Ffeministiaid Marcsaidd, gall anghydraddoldeb dosbarth hefyd bod yn gysylltiedig ag anghydraddoldebau rhywedd. Credon nhw fod menywod yn israddol o fewn y system gyfalafol, ac yn ôl  Margaret Benston, rôl menywod o fewn y system gyfalafol yw gwneud gwaith llafur domestig am ddim a magu’r gweithwyr y dyfodol. I fynd ymhellach, mae nifer yn credu bod rôl menywod yn y byd gwaith yw bod y “gweithwyr llafur wrth gefn”. Roedd yr Ail Ryfel Byd (rhwng 1939-1945) yn dystiolaeth dda o hyn oherwydd cymerodd menywod swyddi’r dynion tra eu bod nhw’n brwydro yn y rhyfel. Ond er hyn, gellir dadlau bod y gymdeithas wedi datblygu a moderneiddio ers y pryd hynny, ac felly mae’n anodd iawn i gymharu’r ddwy sefyllfa. Yn ogystal, yn ôl Ffeministiaid Marcsaidd, mae menywod yn wynebu’r “nenfwd gwydr”, sydd yn eu hatal rhag cyrraedd y swyddi top, ac mewn cyfnodau economaidd gwael, mae’n haws cael gwared ar fenywod na ddynion. Felly mae modd gweld y cysylltiad clir rhwng anghydraddoldeb rhywedd ac anghydraddoldeb dosbarth.

Mae syniadau Weberaidd (sef credoau sy’n seiliedig ar ymchwil Max Weber) yn cytuno i raddau gyda syniadau Marcsaidd, ond yn anghytuno yn gyffredinol. Credon nhw fod pedwar dosbarth cymdeithasol: ‘y Breintiedig’ – y rhai ar dop y gymdeithas, ‘y Peti Bourgeoisie’ – y rheolwyr a gweithwyr hunangyflogedig, ‘y gweithwyr Coler Wen’ – y dosbarth canol is ac  ‘y gweithwyr Llaw” – y dosbarth gweithiol. Rhoddon nhw ystyriaeth ar ddosbarth cymdeithasol, ond hefyd maent yn pwysleisio statws a phlaid hefyd. I Weber, mae pob ffactor yn ar wahân, ac i Marx, gyfystyr yw dosbarth cymdeithasol, statws a phlaid. Mae statws yn cyfeirio at safle a pharch sydd gan unigolyn yn y gymdeithas, ac mae plaid yn golygu aelodaeth yr unigolyn at y gymdeithas ffurfiol ac anffurfiol.

Mae syniadau Weberaidd yn galluogi ni i ddeall mwy am yr anghydraddoldebau ethnig a rhywedd sydd o fewn y gymdeithas a bod y rhain yn bodoli am resymau nad sy’n gysylltiedig ag anghydraddoldebau dosbarth yn unig, ond yn lle maent yn enghreifftiau o anghydraddoldebau statws.

Mae damcaniaethau Weberaidd yn esbonio bod pŵer a statws yn nwylo’r grŵp ethnig mwyaf, ac felly’, mae’n anodd i bobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig i gystadlu. Dyma’r rheswm pam mae’r mwyafrif o grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn cael eu cysylltu â chyflog isel, amodau byw isel ac ardaloedd difreintiedig. Mae 70% o blant ag ethnigrwydd Bangladeshi yn dlawd yn swyddogol (‘Poverty.org’), 60% i bobl o Bacistan, 50% i Affricanwyr Du, 30% o bobl o India ac Affro-Caribi a 20% o bobl wen. Hyd yn oed pan mae pobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn gwneud yr un swyddi â phobl wen, nid ydynt yn derbyn yr un statws â hwy. Mae hyn oherwydd eu bod yn wynebu rhagfarn a gwahaniaethu gan weithwyr gwyn am eu bod yn gweld lleiafrifoedd ethnig fel bygythiad i’w swyddi. Yn sgil hyn, mae lleiafrifoedd ethnig yn dioddef o anghydraddoldeb statws yn ogystal ag anghydraddoldeb dosbarth.

Mae’r ‘theori Farchnad Llafur Deuol’  (syniad Weberaidd gan Barron a Norris) yn rhannu i ddwy sect wahanol: y Farchnad Llafur Cynradd ac Eilradd. Y naill yn cynnwys swyddi sefydlog a broffesiynol, megis cyfreithwyr a doctoriaid. Mae angen i chi cael y sgiliau a phrofion cywir er mwyn derbyn y swyddi yma a gwelir mai mwyafrif o weithwyr y Farchnad Llafur Cynradd yw dynion wen. Y llall, ar y llaw arall, yn wrthwyneb i Gynradd. Mae’n cynnwys swyddi lle nad oes angen sgiliau penodol ac mae’r gwaith yn fwy galwedigaethol. Esiamplau o hyn yw gweithwyr siop neu weithwyr y ffatri. Nid oes llawer o symudoledd cymdeithasol o fewn y swyddi yma ac mae canran anghyfartal o weithwyr yn naill ai benywaidd, neu’n dod o grwpiau lleiafrifoedd ethnig. Yn ôl Barron a Norris, er bod dynion yn cael eu cyflogi yn y ddau sector, mae mwyafrif ohonynt yn y Farchnad Llafur Cynradd, ac mae menywod yn y sector arall. Mae llawer o esboniadau am hyn sy’n cefnogi ei gilydd: mae menywod yn fwy tebygol o weithio’n fwy am lai o arian; menywod yn llai tebygol o ymrwymo eu hunain i swyddi, oherwydd er enghraifft maent yn magu plant neu wedi priodi; maent yn fwy tebygol o fod yn llai trefnus. Felly, dadleuir gan Barron a Norris bod anghydraddoldeb statws sydd ar fai.

Dynesiad arall Weberaidd yw Rex a Thompson, pwy sy’n dweud bod lleiafrifoedd ethnig yn dioddef o anghydraddoldebau dosbarth a statws a bod hyn yn arwain at dlodi sy’n cael ei gwaethygu gan hiliaeth. Yn Llundain yn unig, mae person croenddu yn 28 waith yn fwy tebygol o gael ei ‘stopio ac archwilio’ gan yr heddlu na phobl wen. Yn ogystal, mae’r heddlu yn targedu pobl du oherwydd “canteen culture” (term a chrëir gan Reiner i gyfeirio at gredoau a rhagfarnau hiliol a rhywiaethol yn bodoli yn y system heddlu). Mae hyn yn arwain at ymlediad pellach o ynysiaeth a rhwystredigaeth ymysg pobl du. Credon nhw fod yr is-ddosbarth du yn datblygu gan bobl sy’n dioddef ynysiaeth a rhwystredigaeth o fewn y gymdeithas.

Yn ôl credoau Weberaidd, mae modd cysylltu anghydraddoldebau gender ac anghydraddoldebau statws. O ran gwahaniaethau o ran tâl, ar gyfartaledd mae menywod yn ennill 40% llai na dynion. Gall hyn fod oherwydd mae menywod yn dueddol o weithio yn y Farchnad Llafur Eilradd. Yn ogystal mae menywod yn tueddu gweithio yn y sector cyhoeddus, megis fel athrawon, lle mae’r tâl yn sylweddol yn is na thâl yn y sector preifat, er enghraifft ym myd busnes. Yn ogystal mae gan fenywod statws gwahanol o fewn y byd gwaith. Yn ôl ‘Boundless’, mae menywod yn llawer mwy tebygol o brofi aflonyddiad rhywiol o fewn y gweithle. Trwy hyn, gwelwn nad gwraidd pob anghydraddoldeb yw anghydraddoldeb dosbarth yn ôl credoau Weberaidd, ond mae’n chwarae rhan ynddo fe.

Mae Ffeministiaid yn dueddol o anghytuno gyda syniadau Marcsaidd. Cred y Ffeministwyr Radical yw bod y gymdeithas yn batriarchaidd ac yn cael ei rhannu i ddau: rhwng dynion a menywod. Credon nhw bod trais domestig yn adlewyrchu pŵer dynion. Mae tua 1.4 miliwn o fenywod yn flynyddol yn dioddef o drais domestig (‘y Guardian’). Yn ogystal mae rhaniad gwaith llafur domestig yn hollol ddibynnol ar eich rhywedd. Mae menywod di-swydd yn dueddol o dreulio tua 57 awr ar dasgau domestig (Walker a Woods), ac mae astudiaethau mwy cyfoes wedi darganfod bod menywod sydd gan swyddi llawn amser yn gwneud tua’r unfaint hefyd. Mae’r mwyafrif o’r amser hynny yn cael eu treulio ar edrych ar ôl blant. Yn ôl Ann Oakley, ‘In only a small number of marriages is the husband notably domesticated… home and children are the woman’s primary responsibility.’ Felly ystyrir gwaith domestig ac edrych ar ôl plant fel rôl fenywaidd yn lle gwrywaidd. Felly, fel y mae cysyniadau Weberaidd yn ymdrin â, mae gwahaniaethu fertigol a llorweddol yn bodoli, yn ôl barn Ffeministaidd. Mae’r cyntaf yn cyfeirio at statws a thâl gwahanol rhwng dynion a menywod, ac mae’r llall yn golygu swyddi gwahanol sy’n cael eu sianeli yn ôl rhywedd, megis mae dynion yn cael eu hannog i weithio tuag at swyddi sy’n fwy cystadleuol a ble mae mwy o symudoledd cymdeithasol. Felly bydd Ffeministwyr yn anghytuno gyda syniadau Marcsaidd ynglŷn ag anghydraddoldebau dosbarth fel gwraidd pob anghydraddoldeb.

Mae’r Ôl-fodernwyr hefyd yn anghytuno gyda Marcswyr ynglŷn ag anghydraddoldebau. Mae Waters yn credu bod dosbarthiadau yn dirywio fel arwydd o hunaniaeth. Yn lle, mae sut yr ydym yn treulio ein hamser, arian ac ein credoau yn ganolig i ein hunaniaethau. Nid oes neb yn cael eu gorfodi bellach oherwydd y cynnydd mewn safonau byw. Mae gan bobl mwy o arian a mwy o amser rhydd er mwyn ymlacio. Mae’r cynnydd mewn gweithgareddau hamddenol yn dystiolaeth o hyn, lle ddatblygwyd y rheiny, megis pêl fas yn yr Unol Daliaethau America yn ystod y 20au. Felly mae pobl yn wynebu mwy o ddewis ynglŷn â’u ffordd o fyw yn hytrach na chael eu gorfodi i mewn i ddiwylliant penodol. Felly mae gan Farcswyr ac Ôl-fodernwyr credoau gwahanol am anghydraddoldebau cymdeithasol.

Mae credoau Swyddogaethol ynglŷn ag anghydraddoldeb yn wahanol o i Ôl-fodernwyr a Marcswyr gan eu bod yn dadlau bod haenau cymdeithasol yn bodoli ar bwrpas er mwyn bod yn fuddiol i gymdeithas sydd yn feritocrataidd. Mae haenau cymdeithasol yn system rancio sy’n seiliedig ar werthusiad moesol. Mae hyn yn ei sylfaenu ar: parch; fawreddogrwydd; anrhydedd cymdeithasol; cymeradwyaeth ac anghymeradwyaeth. Mae haenau cymdeithasegol modern yn gwrthrychu consensws normadol am beth mae’r gymdeithas yn gweld yn werthfawr, ac felly, yn ôl Davis a Moore, caiff pobl fwyaf galluog a doniog eu gosod yn y swyddi mwyaf pwysig oherwydd maent yn fwy o fudd i’r gymdeithas.

Ar y cyfan, mae llawer iawn o ddamcaniaethau am anghydraddoldebau cymdeithasol. Ar un llaw, mae gennych chi gysyniadau Marcsaidd, sydd o’r farn mae dosbarthiadau cymdeithasol yw’r gweithredwyr o’r holl anghydraddoldebau cymdeithasol, lle mae cysyniadau Weberaidd, Ffeministaidd, Swyddogaethol ac Ôl-fodernaidd yn gwrthddweud y Marcswyr.

Advertisements

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s