Asesiad o’r safbwynt bod priodasau yn cyfartal yn y Deyrnas Unedig.

Mae’r gymdeithas wedi moderneiddio llawer dros y blynyddoedd, ac mae nifer o safbwyntiau o blaid ac yn erbyn y ddadl bod priodasau yn gyfartal yn y Deyrnas Unedig.

Gwelodd yr ôl-fodernwyr Giddens bod llawer o ‘ewyllys rhydd’ â phobl, felly cytunir gyda’r cwestiwn oherwydd mae pobl bellach yn rhydd i ddewis a gwneud penderfyniadau yn y gymdeithas, gan gynnwys o fewn briodasau. Yn ôl Young a Willmott, bellach mae’r gymdeithas yn rhoi llawer o bwyslais ar ‘teulu cymesurol’, sydd yn atgyfnerthu at y cysyniad bod priodasau, a theuluoedd yn hafal yn y gymdeithas gyfoes.

Gellir dadlau bod priodasau a pherthnasau ieuengach yn fwy hafal oherwydd y ffordd cafodd eu magu. Mae mwy o ryddid gender ac mae sefydliadau anllywodraethol, megis Stonewall, yn dylanwadu asiantaethau cymdeithasoli fel rhieni ac athrawon i gymdeithasoli plant heb bwyslais ar rolau gender. Mae Mansfield a Collard yn cefnogi’r cysyniad hon, ond hefyd gwelodd bod gwragedd yn dueddol o fod yn siomedig achos y diffyg dwyochredd emosiynol yn ei phriodas, sy’n gwrthbrofi’r syniad bod priodasau yn gyfartal yn y Deyrnas Unedig.

Gwelodd Salie Westwood bod mwy o gyfartaledd mewn priodasau Asiaidd. Er bod menywod Asiaidd fel arfer yn cael eu magu i fod yr ofalwyr, maent yn hyd yn oed yn cymryd rheolaeth dros benderfyniadau economaidd, megis symud tŷ. Yn ogystal mae’r dyn a’r fenyw mewn perthynas Asiaidd yn gwneud y coginio yn y tŷ, allan o draddodiad Asiaidd.

Er hyn, bodola nifer fawr o safbwyntiau sy’n gwrthddweud y cwestiwn. Mae modd dadlau bod ymddygiadau gan rhai ynglŷn â rôl fenyw yn cael effaith. Er enghraifft, yn ôl Rapoport a Rapoport, mae’r teulu yn dueddol o weld y fenyw fel ‘gwragedd a mamau’, tra bod nhw yn dueddol o weld y dyn fel y ‘breadwinner’. Hefyd os oedd dyn yn gwneud gwaith domestig, bydd y dyn yn ‘helpu ei wragedd’, sy’n awgrymu mae gwaith domestig yn swydd i fenywod.

Credir Mckee a Bell bod dynion di-swydd hyd yn oed yn gwneud llai o waith nag oedden nhw pan oedd ganddynt swyddi, ond i wrth-ddweud hyn, mae Wheelock yn sôn am  gysyniad bod diweithdra’r dyn yn arwain at rolau ryw gadarnhaol oherwydd mae gan y dyn mwy o amser rhydd i wneud gwaith domestig.

Cymerodd Morley llawer o sylw tuag at ba eiriau roedd gwr a gwraig yn cysylltu gyda’r tŷ. Daethon nhw at y casgliad bod y gwr fel arfer yn cytuno bod ‘y tŷ yw’r man hamdden’, a chytunodd y gwragedd bod ‘y tŷ yw man gweithio’. Mae hyn yn profi bod gwahanol ragolwg ar sail rôl y tŷ mewn priodas, ac felly rolau priodasau gwahanol ar sail gender yn effaith yn y gymdeithas. Yn ogystal edrychodd Bernard i mewn i ymddygiadau gwr a gwraig tuag at bwy sy’n berchen â beth mewn priodas, gwelodd y safbwynt, ‘ei eiddo ef a’i heiddo hithau’, sydd yn golygu bod y gwr sy’n gyfrifol am y tŷ ac mae’r fenyw yn gyfrifol am bopeth sydd yn y tŷ (megis dillad, bwyd), sydd yn golygu mae gwaith domestig yn swydd y wraig.

Yn ôl ymchwil Betty Stanko, nid yw priodasau yn y Deyrnas Unedig yn hafal oherwydd mae gweithred o drais domestig pob chwe eiliad, sy’n rhoi pwyslais ar anghyfartaledd mewn priodasau cyfoes. Dwedodd Sclater fod perthnasau ansefydlog (‘random outbursts of violence’) yn gatalydd ar gyfer drais domestig.  Yn ôl erthygl gan yr ‘Observer’, mae 40% o bobl sy’n dioddef o drais domestig yn dynion, sy’n dangos y dynion fel y dioddefwyr yn lle. Gall ystadegau trais domestig dod o dan y ffigwr tywyll trosedd oherwydd efallai nid yw dyn yn dymuno cwyno i’r heddlu rhag ofn bod dioddef yn gwneud iddynt edrych yn wan, neu hyd yn oed yn aros mewn perthynas trais domestig yn  y gobaith bod y cam-drin yn mynd i ffwrdd. Yn ogystal mae nifer o fenywod yn dewis beidio mynd i’r heddlu yn y gobaith bod y cam-drin wedi dod i ben, neu efallai yn ofni mynd rhag ofn bod ei bartner yn ymateb yn treisgar. Felly nid yw priodasau a berthnasau yn hafal oherwydd yr holl drais domestig sy’n digwydd yn y cartref.

Mae rhai o’r safbwynt bod rhaniad annheg o bŵer mewn briodasau cyfoes yn y Deyrnas Unedig. Dwedodd Edgell bod penderfyniadau anghyfartal rhwng dyn a menyw priodasol. Hyd yn oed os oedd y dyn yn ddi-swydd, roedd yn dueddol o wneud y penderfyniadau mawr, megis symud tŷ. Mae Delphy yn mynd ati i atgyfnerthu i esbonio’r ‘treuliant gwahaniaethol’, sy’n golygu bod menywod yn dueddol o dderbyn llai o arian na’r gwr, ac felly yn tybio rôl israddol. Yn ei astudiaeth o bedwar-deg pâr gwyn a oedd wedi priod dros pedwar-deg o flynyddoedd, gwelodd Duncombe a Marsden bod menywod yn dueddol o brofi ‘unigrwydd emosiynol’, felly mae hyn yn esbonio bod diffyg cyfathrebu yn arwain at briodasau anhapus ac anghyfartal.

Mae ymchwil Hochschild yn dangos bod menywod yn dueddol o wneud gwaith domestig am dair awr, gan gymharu â ddynion, sy’n gwneud tua un-deg-saith munud o waith. Er hyn, ni ellir anwybyddu’r ffaith bod dynion yn dueddol o wneud y gwaith mwy heriol a cyhyrol, megis garddio neu paentio. Mae Brayfield yn dadlau bod hyd yn oed mewn priodasau gyrfa deuol, roedd gan y menyw y prif cyfrifoldeb gartref, felly mae diffyg rhaniad gwaith llafur yn rhan-gyfrifol am diffyg cydraddoldeb mewn priodasau yn yr oes cyfoes. Y Shifft Drifflyg yn term wnaeth Sylvia Walby defnyddio i esbonio pam nad oedd priodasau yn cydradd yn y cymdeithas. Mae hyn yn golygu bod bellach gan y menyw tair swydd pwysig, sef mynd allan i weithio i ddarparu cefnogaeth ariannol i’r deulu, yr holl gwaith domestig, gan gynnwys coginio a glanhau, a gofalu am iechyd emosiynol y teulu. Mae hyn yn profi bod gor-dibynadwyedd ar fenyw, ac felly yn anghyfartal oherwydd mae’r menyw yn gwneud mwy o waith na’r gwr, fel arfer, yn ôl Walby.

Advertisements

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s