Y cysylltiad rhwng cyrhaeddiad addysgol ac amddifadedd materol ym Mhrydain

Ystyr amddifadedd materol yw mynd heb y pethau materol sydd yn eu angen arnoch, er enghraifft car neu ffon. Gwelom cysylltiad gyda nifer o ffactorau gwael megis addysg, swydd a iechyd gwael, diffyg arian a statws isel. Gwelir cysylltiad glir rhwng tlodi a dosbarth cymdeithasol. Mae A J. Douglas (‘The Home and the School’ ’64) yn atgyfnerthu hyn gan dweud bod ‘Rhwydwaith cyd-gloi o anghydraddoldeb addysgol yn bodoli sy’n gweithredu yn erbyn y dosbarth gweithiol’, gan gynnwys tai ac amgylchedd byw, mynediad i ysgolion cynradd da a digon o gymhelliant a chymorth gartref gan y teulu, ymysg rhesymau eraill. Ychwanegodd Pamela Sammons gan dweud ’social class has a marked effect on a reader’s progress in the primary school’. Felly cytunodd hi a’r ffaith bod cysylltiad rhwng amddifadedd materol a cyrhaeddiad addysg.

Mae teuluoedd o’r dosbarth gweithiol yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi a byw mewn tai anfoddhaol. Ynglŷn â iechyd a deiet gwael, mae Marilyn Howard yn cyfeirio at hyn yn penodol oherwydd mae’n rhan gyfrifol dros y cysylltiad rhwng cyrhaeddiad addysgol ac amddifadedd materol achos mae plant o dan amddifadedd materol gyda llai o gymeriant egnïol, fitaminau a mwynau. Mae hyn yn gael dau prif effaith: system imiwnedd gwan sy’n golygu mwy o salwch ac felly llai o bresenoldeb yn yr ysgol a llai o lefelau egni sy’n achosi mwy o broblemau ffocysu, ac felly canlyniadau waeth.

O ran iechyd, mae Richard Wilkinson (‘96) yn dweud bod  plant tlawd yn fwy tebygol o ddioddef o broblemau ymddygiadol ac emosiynol a hefyd mae cyfraddau gorfywiogrwydd ac anhwylderau ymddygiadol yn uwch ymysg y dosbarth gweithiol gan gymharu â ddosbarthiadau eraill. Gall y ddeiet gwael ymysg y dosbarth gweithiol bod oherwydd does dim digon o arian ganddynt i brynu bwydydd iachus, ac yn cael eu gorfodi i prynu bwydydd afiachus fel canlyniad.

Gall gorlenwi o fewn cartrefi gwneud astudio’n anoddach, felly mae’r ansawdd cartrefi ar yr unigolyn yn dwys iawn. Yn ôl Michael Gove, “dyle plant cael ystafell i ei hunain i astudio mewn”. Felly mae’n pwysleisio’r effaith mae gorlenwi ac ansawdd tai gwael yn cael ar y disgybl. Mae cwsg cythryblus gan rannu ystafelloedd/gwelïau â phobl eraill yn cael effaith ar ganolbwyntiad yr unigolyn yn yr ysgol a mewn arholiadau. Nid oes gan blant ifanc digon o wagle i chwarae o gwmpas mewn nifer o gartrefi amddifadedd, felly mae ganddynt mwy o gyfleoedd i ddysgu ac archwilio. Dywedodd Paul Harrison yn ei ymchwil i mewn i’r fwrdeistref Hackney bod cartrefi Hackney yn “nodweddiadol o gynnig llai o deganau a llyfrau, llai o wibdeithiau a gwyliau, prinder lle personol ar gyfer chwarae neu astudio”, felly cefnogwyd y cysyniad bod amddifadedd materol yn effeithio ar addysg myfyrwyr. Gall tâi anfoddhaol cael effaith ar eich iechyd oherwydd tamprwydd, amodau byw anniogel a bwysau seicolegol, sy’n cysylltu gyda fy syniad blaenorol o golli ysgol oherwydd iechyd gwael a diffyg canolbwyntiad yn yr ystafell dosbarth neu mewn arholiadau.

Mae Emily Tanner (2003) yn cyfeirio at gefnogaeth plant gan ddweud nid yw plant o deuluoedd tlawd yn medru fforddio’r adnoddau ar gyfer ysgol e.e. arian ar gyfer tripiau ysgol sy’n defnyddiol ar gyfer profiad eang, llyfrau a cysylltiad i’r we, ac mae hyn yn rhoi bwyslais arnynt fel teulu ac yn achosi straen â’r ddisgybl i colli allan. I ychwanegu, mae Jan Flahety yn dweud bod diffyg offer e.e. gwisg ysgol yn cysylltu â absenoldeb ysgol oherwydd efallai bydd y plant yn colli ysgol yn bwrpasol i osgoi bwlio neu cosb, sy’n egluro’r rheswm dros y gwahaniaeth rhwng canlyniadau TGAU ymhlith teuluoedd cyfalaf materol ac amddifadedd materol.

Yn ôl Smith a Noble (‘Barriers to Learning’ ’95) fel arfer mae plant o ardaloedd tlawd yn mynd i ysgolion tlawd a sy’n dan-perfformio. I atgyfnerthu at y syniad hyn, 90% o leoliadau ysgolion sy’n dan-perfformio yw mewn ardaloedd tlawd. Felly mae’r ardaloedd ble maent yn byw yn cyfyngu plant wrth cael cymorth a chymhelliant wrth astudio. Ynglŷn ag addysg pellach ymhlith y dosbarth gweithiol, mae Reay et al cyfeirio at y ffaith bod myfyrwyr o’r ddosbarth gweithiol yn ceisio am lle mewn prifysgolion mwyaf lleol oherwydd does dim digon o arian ganddynt i mynd yn bell neu efallai maent yn gorfod edrych ar ôl aelod o’r deulu (fel brawd neu chwaer ifanc) felly maent yn byw gartref, felly mae problemau economaidd yn eu cyfyngu nhw.

Mae cysylltiad rhwng cyrhaeddiad addysgol a bwydydd am ddim hefyd. Gwelom yn 2006 roedd 33% o blant a oedd yn derbyn bwydydd am ddim o’r ysgol yn ennill 5 A*-C TGAU gan gymharu â 61% o blant a oedd dim yn derbyn bwydydd am ddim. Ar cyfradd, 60% o ferched gwyn Prydeinig a oedd dim yn derbyn PYaDd (Free School Meals) a 32% o ferched gwyn Prydeinig a oedd yn derbyn PYaDd. Hefyd 42% o fechgyn du Affricanaidd  a oedd dim yn derbyn FSM a 30% o fechgyn du Affricanaidd a oedd yn derbyn PYaDd. Mae hyn yn awgrymu mae plant sy’n derbyn PYaDd yn dueddol o wneud yn waeth na’r rhai sydd dim yn derbyn PYaDd, ac yn cryfhau’r cysylltiad rhwng cyrhaeddiad addysgol ac amddifadedd materol.

Darganfyddwyd Holmes a Croll bod pe bai bechgyn dosbarth gweithiol yn gwneud o leiaf awr o waith cartref byddent yn gwneud yn cystal â bechgyn dosbarth canol mewn addysg. Felly pwysleisiwyd y ffaith bod bechgyn dosbarth gweithiol dim yn astudio’n gyson â’r dosbarth canol ac felly’n cael canlyniadau waeth mewn arholiadau. O ran grwpiau ethnig, gwelom bod lleiafrifoedd ethnig (heblaw a Tsieineaidd ac Indiaidd oherwydd mwy o bwyslais ar llwyddiant addysgol er gwaethaf yr amddifadedd) yn tueddol o gael llai o TGAU ym mhob achos. Gall hyn bod oherwydd mae mwy o deuluoedd lleiafrifoedd ethnig o dan tlodi ac mae llai o bwyslais ar addysg o fewn ei ddiwylliannau.

Mae gan amddifadedd materol effaith ar addysg oherwydd ymddygiadau, normau a gwerthoedd sy’n cyd-fynd â fe. Daw’r cysyniad hyn o  bPaul Willis a oedd yn astudio ymddygiadau dosbarth gweithiol. Yn y 70au astudiwyd yr ymddygiadau ddeuddeg o fechgyn y dosbarth gweithiol ynglŷn ag addysg a’i gymharu â myfyrwyr o deuluoedd cyfalaf materol a cheisio dod o hyd i’r ateb pam mae’r dosbarth yn derbyn swyddi a chyflogau is e.e. glanhau. Daeth i’r casgliad bod bechgyn y dosbarth gweithiol, ‘y Lads’, yn dueddol o flaenoriaethu hwyl oherwydd mae’n cymorth wrth delio â awdurdod a chyflog isel. Yn ôl y ‘Lads’, nid oedd addysg yn feritocrataidd.

Felly i gloi mae cysylltiad chryf rhwng amddifadedd materol a chyrhaeddiad addysgol. Mae rhesymau fel ansawdd tai, diffyg cymhelliant a chymorth ariannol, ymborth ac ymddygiadau gwael i gyd yn gael eu gefnogi gan cymdeithasegwyr fel Smith a Noble, Jan Flahety, Marilyn Howard, Paul Harrison, Michael Gove a Jackson a Marsden.