Beth yw crefydd?

Mae yna amrywiaeth o ddiffiniadau gwahanol o grefydd. Dwedwyd St. Augustine unwaith bod ‘pawb yn deall sut i ddiffinio crefydd, hyd nes mae rhywun yn ofyn am ddiffiniad’.  Y ddiffiniad Google (2014) yw ‘ belief in, worship of, or obedience to a supernatural power or powers considered to be divine or to have control of human destiny’. Gellir dadlau bod y ddiffiniad hyn yn agor iawn, mae’n sôn am grefydd yn gyffredinol iawn. Y diffiniad rhoddir gan ‘Encyclopaedia Britannica’  yw bod grefydd yn cysylltu bodau dynol i beth maent yn gweld sy’n sanctaidd. Diffiniad o Geiriadur Penguin (1997) yn dweud bod grefydd yw ‘term cyffredinol’ ‘to designate all concepts concerning the belief in god(s)’ ‘gan gynnwys bodau goruwchnaturiol neu pryderon drosgynnol’, felly crefydd yw’r cred bod cysyniad penodol yn rhoi’r ateb cywir, neu credu a weithiau ymroi i rhywbeth goruwchnaturiol neu gyda pŵer dros pobl ddynol.

Rydym yn byw mewn cymdeithas aml-ddiwylliannol, mae’r sensws yn dweud bod crefyddau newydd ym Mhrydain er enghraifft Mudiadau Crefyddol Newydd (MCN) fel Seientoleg ac mae rhai crefyddau eraill megis Cristnogaeth yn colli dilynwyr. Felly mae twf mewn lluosogrwydd crefyddol yn ein cymdeithas yn gwneud ffeindio ddiffiniad deniadol yn anoddach. Mae crefyddau megis Bwdhaeth a Christnogaeth yn wahanol iawn, felly mae’n anodd i ddiffinio pob un. Mae Seciwlariaeth yn ein cymdeithas yn golygu lleihad mewn rhai ffactorau crefyddol megis credu mewn bodolaeth Duw, hyd yn oed gwerthoedd crefyddol, er enghraifft yn y Beibl mae’n dweud bod perthynas un-rhyw yn anghywir, ond yn y cymdeithas cyfoes gwelwom bod llai o stigma o gwmpas pobl hoyw ac mae llawr mwy o Gristnogion yn mwy derbyniol o’r peth. Felly mae ddatblygiad a lleihad mewn crefydd yn golygu bod crefydd yn anoddach i ddiffinio.

Mae’r cymdeithasegwr Max Weber yn gwrthod diffinio crefydd, mae’n atgyfnerthu at y  ffaith bod crefydd yn rhy eang i rhoi ddiffiniad cywir, ond mae’n dweud, ‘each religion (is) as rational and consistent in their respective societies’, felly er bod pob crefydd yn wahanol, ystyriwyd crefydd fel rhywbeth moesol beth bynnag ac yn dderbyniol mewn cymdeithas penodol, er enghraifft ystyriwyd Cristnogaeth ac Islam yn dderbyniol yn ein cymdeithas.

Mae cyd-Marcswyr Karl Marx yn dweud, ‘Religion is the sigh of the oppressed creature, the heart of the heartless world, just as it is the spirit of a spiritless situation. It is the opiate of the people’, Mae hyn yn golygu bod crefydd yw’r ‘cyffur’ sy’n cadw’r dosbarth gweithiol yn hapus ac obeithiol, a gellir dadlau o safbwynt Marcswyr, cadw’r dosbarth gweithiol yn dawel. I ehangu ar y pwynt bod y Bourgeoisie yn defnyddio crefydd fel dull i tawelu’r Proletariat, mae Napoleon Bonaparte yn dweud, ‘crefydd yw arf er mwyn tawelu’r pobl cyffredin’.

Yn ôl y cymdeithasegwr Clifford Geertz, y crefydd yw ‘set o symbolau’, felly mae pob llun a symbol crefyddol yn cael eu ddefnyddio i tanlinellu stori penodol, neu yn cynrychioli’r rheswm ar gyfer natur y byd a siapio ein ddealltwriaeth am bywyd. Defnyddiwyd crefydd, neu’r ‘set o symbolau’ ar gyfer deall sut a pam rydym ni’n bodoli. Mae diffiniad gan R.N Bellah yn eithaf tebyg, dwedwyd bod crefydd yw ‘ffurfiau, setiau a weithredai  sy’n symboleiddio neu egluro natur ddyn’. Felly pethau sy’n cynrychioli’r ateb ar gyfer pwrpas bywyd.

Mae’r ddiffiniad, neu damcaniaeth  gan Emile Durkheim yn eithaf tebyg, yn ôl Durkheim crefydd yw ‘system unol o gredoau ac ymarferion yn gysylltiedig gyda pethau sanctaidd’. Felly crefydd yw grŵp o bobl sy’n dilyn yr un rheolau a ddelfrydau e.e. Hindŵaeth.  Yn ôl Ambrose Bierce, ‘crefydd yw ferch gobaith ac ofn, eglurhad i anwybodaeth a natur yr anwybodadwy’. Mae crefydd yn creu gobaith ac ofn ac yn ceisio rhoi ateb i anwybodaeth a pethau rydych yn methu egluro.

Yn ôl J.M. Barrie, ‘crefydd yw beth bynnag mae person yn cymryd mwy o ddiddordeb mewn’, felly gall unrhywbeth, er enghraifft darllen neu gwrando i gerddoriaeth bod yn crefydd os yn pwysig iawn i berson benodol. Mae hyn yn safbwynt gwahanol a ddiddorol iawn, mae’n diffiniad cyffredinol a ddim yn cyfeirio at bodolaeth sanctaidd.

Mae’r seicolegwr Sigmund Freud yn credu bod ‘crefydd yw rhith sydd yn cyd-fynd ag ein greddfau dymunol’, i crynhoi hyn crefydd yw rhywbeth rydym wedi creu i rhoi atebion sy’n cyhoeddus i ni, er enghraifft pwrpas bywyd. Mae Melford Spiro yn credu ‘mewn llygaid systemategol, gallwch gwahaniaethu o sefydliadau a gyfansoddwyd yn ddiwylliannol oherwydd y cysylltiad i bodau goruwchnaturiol’. I dadansoddi’r safbwynt hyn mae crefydd yn tebyg iawn i pob sefydliad diwylliannol, heblaw am y ffaith bod crefydd yn cynnwys pethau sanctaidd e.e. Duw. Hefyd mae’n cymysg o ymarferion grefyddol a bodau uwch.

Yn ôl Peter Berger, crefydd yw ‘ymddygiad dynol tuag at trefn sanctaidd ynglŷn â popeth sy’n bodoli, bodau dynol neu syniadau eraill’. Golyga hyn bod  crefydd yw’r agwedd tuag at syniadau athronyddol sy’n sôn am sut a pham rydyn ni yn bodoli. Mae Ralph Waldo Emerson yn cymryd safbwynt eithaf athronyddol hefyd, ‘I gwneud gweithredai da. I caru, i ymroi, i feddwl, i bod yn ddiymhongar.’ Felly mae crefydd yn ffordd o fyw, ac yn rhywbeth sy’n arwain unigolyn i bod yn person dda. Efallai mae gan Emerson safbwynt crefyddol iawn, ac yn dehongli crefydd sydd gyda llawer o ddylanwad gan grefydd, mae hyn yn ffactor mae rhaid ystyried.

Ar y cyfan mae sawl ffordd o ddiffinio crefydd. Mae rhai cymdeithasegwr a seicolegwr yn cymryd safbwynt mwy rhesymol megis J.M Barrie ac A.N. Whitehead. Ac mae rhai eraill yn son am diffiniadau athronyddol iawn, er enghraifft Ralph Waldo Emerson, Karl Marx a Bonaparte. Beth bynnag, mae’r diffiniadau sy’n son am bodolaeth goruwchnaturiol e.e. Duw(iau) yw’r rheswm mwyaf poblogaidd, gan gynnwys Durkheim, R.N. Bellah, Clifford Geertz, Melford Spiro a Peter Berger. Gellir dadlau bod crefydd yn golygu’r cymuned i bobl sy’n ufuddhau i rhywbeth ac yn ol ceir gobaith, fydd, hapusrwydd a goleuedigaeth.

Advertisements

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s