Asesiad o’r safbwynt bod yna cydraddoldeb mewn rolau rhywedd yn y teulu yn y gymdeithas gyfoes.

Yn sgil y gwelliannau sydd wedi bod ym mywydau dynion a menywod, y gred yw bod perthnasoedd wedi troi yn fwy egalitaraidd. Mae nifer o ddadleuon o blaid ac yn erbyn y safbwynt hon.

Dadl enwog o blaid y safbwynt yw Young a Wilmot (1973). Maent yn credu bod y teulu yn symud mewn cyfeiriad i’r ‘teulu cymesurol’, felly oriau cyfartal o waith domestig ond mathau o waith hollol gwahanol, er enghraifft mae’r fenyw yn coginio ac mae’r ddyn yn garddio. Mae cymesuredd yn disgrifio ‘ymdeimlad o gydbwysedd’ rhwng gŵr a’r gwraig neu’r ddau bartner. I ehangu’n bellach ar y pwynt hyn maent yn honni bod y deulu wedi esblygu a ddatblygu trwy tair gyfnod: teulu cyn-ddiwydiannol, teulu diwydiannol cywir a teulu cymesurol.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae nifer cynyddol o bobl yn deall bod rolau yn gallu bod yn gyfnewid adwy, felly mae mwy o fenywod yn mynd allan i weithio a mae llawer mwy o ddynion nag o’r blaen yn aros gartref i magu’r blant, neu gwneud mwy o waith tŷ. Er mwyn atgyfnerthu hyn gyda tystiolaeth, mae ystadegau’n dangos bod gan saith allan o ddeg o fenywod swydd, ac mae gan hanner o famau sy’n gweithio plant o dan pum oed.

Mae’r Ffeministiaid Rhyddfrydol a Young a Wilmot yn dadlau bod y cynnydd mewn poblogaidd y Ddyn Newydd yn tystiolaeth o blaid y safbwynt. Maent yn credu dyle dynion a menywod bod yn hafal, hefyd maent yn ddilyn rhai o normau ystrydebol menyw megis cymryd llawer o ddiddordeb yn y ffordd rydych yn edrych. Mae cynnydd mewn teuluoedd ‘gyrfa deuol’ yn golygu bod y ddyn a’r menyw yn mynd allan i weithio ac i ennill cyflog, felly mae’r fenyw yn ennill yr un fath o barch â’r dyn, hefyd mae menywod yn mwy annibynnol gan eu bod yn gweithiol ac efo awdurdod.

Mae safonau byw gwell wedi arwain at rolau newidiol, ac fel ganlyniad, cydraddoldeb mewn rolau rywedd. Mae mwy o addysg a dealltwriaeth o hawliau yn golygu bod yna mwy o gyflog neu gwell cyflog i’r fenyw, sy’n effeithio ar ei statws mae bwyta allan hefyd yn gwella safonau byw gan eu bod yn rhoi llai o bwyslais ar rhaniad gwaith domestig, mae llai o fe i wneud. Ynglŷn â genedigaethau hwyrach, mae hyn yn arwain at berthynas cydradd achos yn ôl Ishii-Kuntz (1992), mae’n annog ddynion i wneud mwy o waith dŷ. Mae hyn yn gysylltiedig â’r ffaith bod menywod sydd â gyrfaoedd yn aml yn oedi cyn cael plant er mwyn ffocysu ar ei swyddi.

Mae’r llywodraeth yn gyfeirio at teuluoedd yn penodol, cyflwynwyd y Prif Weinidog Gordon Brown ddeddfau yn 2001: ‘paternity leave’ o leiaf dau wythnos, mwy o arian ar gyfer famolaeth, felly mae’n cynyddu i 26 wythnos o gyflog, ef eu hun yn pwysleisio gwerthoedd y teulu; a budd-daliadau i deuluoedd sydd yn eu hangen. Ar y llaw arall gellir dadlau bod anghydraddoldeb mewn perthnasoedd yn broblem os oes rhaid i’r llywodraeth ymyrryd a thaclo’r sefyllfa.

Er gwaethaf y gwelliannau mae menywod dal yn cael eu gysylltu â gwaith domestig a gofalu am y plant. Felly gellir dadlau bod gormes menywod yn bodoli trwy’r rôl gwaith tŷ. I wrth-ddweud y syniad o deuluoedd gyrfa deuol yn arwain at cydraddoldeb mewn perthnasoedd, mae Ffeministaidd yn dadlau bod ‘Rolau Deuol’ a ‘Shifft Drifflig’ yn golygu bod y menyw yn gorfod gofalu am y plant. Hefyd mae safbwynt Brayfield yw bod menywod dal yn gwneud y mwyafrif o’r waith mewn teuluoedd gyrfa deuol. Yn ôl Rapoport a Rapoport, mae partneriaid a’u blant dal yn ystyried menywod fel y ‘gwragedd a mamau’ o fewn y teulu, ac felly’n uwcholeio’r ffaith bod menywod yn bodoli ergwasanaethu’r teulu. Hefyd mae rhaid ystyried y ffaith bod dynion wastad y ‘helpu eu wragedd’ wrth wneud y waith tŷ, mae hyn yn awgrymu bod y fenyw yw’r prif glanhawyr ac mae gan dyn rôl mwy pwysig, sef ennill cyflog, sy’n atgyfnerthu’r safbwynt bod anghydraddoldeb yn bodoli mewn perthnasoedd.

Mae Patriarchaeth yn golygu cymdeithas sy’n cal ei rheoli gan ddynion, mae llawer o ffeministiaid yn credu bod hyn yn bodoli yn ein cymdeithas. Mae’r ffeminist Ann Oakley yn dweud bod gwaith domestig yn dull gan y gymdeithas patriarchaidd i ecsploetio menywod. Yn ôl David Morley, ‘mae menywod yn gweld y tŷ fel man gweithio, a ddynion fel man hamdden’. Felly mae syniadau gwahanol ar gyfer bwrpas y tŷ yn golygu bod y menyw yn gwneud y mwyafrif o’r waith. I gyd-fynd â’r syniad o amser hamdden, mae Arlie Hochschild (1990) yn dadlau bod menywod sy’n gweithio’n llawn amser yn treulio tair awr y dydd ar gwaith tŷ ac mae’r ddyn yn treulio un-deg-saith munud fel arfer.

O ran pŵer ac awdurdod, yn ôl Stephen Edgell (1980) yn eu astudiaeth o’r enw ‘Middle Class Couples’, mae penderfyniadau rhwng cwplau dal yn anghyfartal, mae’r dynion fel arfer yn gwneud y penderfyniadau pwysig megis symud tŷ. Felly mae’r ddyn yn gwneud y penderfyniadau mawr a phwysig ac mae’r fenyw yn tueddol o wneud penderfyniadau llai ond yn fwy aml. Mae Bernard yn pwysleisio’r ffaith bod anghydraddoldeb o ran bŵer yn bodoli mewn priodas, ‘ei eiddo ef a’i heiddo hithau’, felly mae’r dyn yn berchen â’r tŷ ond mae popeth yn y tŷ yn berchen i’r menyw, felly mae’r menyw yn cyfrifol am edrych ar ôl y tŷ.

Yn ôl y ffeminist Radical Cristine Delphy, mae’r ‘treuliant gwahaniaethol’ yn esbonio’r pŵer sydd gan ddynion. Mae gan fenywod llai o arian personol, felly mae’r dyn yn rheoli faint o arian mae’r fenyw yn cael, sy’n gwrth-ddweud y safbwynt â rhoddwyd. I atgyfnerthu at y safbwynt hyn, mae Jan Pahl yn dadlau yr ‘husbands controlled pooling’, felly mae’r dyn yn ddominyddol iawn. Er bod yr arian yn cael eu rhannu mae’r ddyn yn penderfynu sut i wario fe, yn enwedig os mae’r gwraig yn ddi-swydd.

Mae rhaniad gwaith fesul oriau yn dadl mawr yn erbyn y safbwynt hefyd. Mae ‘Legal and General’ (2013) yn cyflwyno’r tystiolaeth bod y menyw yn cwblhau tua saith-deg-un awr o waith tŷ yr wythnos ac y ddyn yn gwneud o gwmpas 53.5 awr. Felly fesul oriau , mae menyw yn gwneud mwy o waith, sy’n gwrthwyneb i theori Young a Wilmot ac yn dangos anghydraddoldeb. I gwrthbrofi’r teulu egalitaraidd a pherthnasoedd cydradd yn bellach, mae’r menyw yn treulio o gwmpas 13.3 awr yn paratoi bwyd ac mae’r ddyn yn treulio dau awr a hanner. Hefyd mae’r menyw yn treulio o gwmpas pump awr a hanner yn siopa ar gyfer nwyddau y tŷ ac mae’r ddyn yn treulio dau awr a hanner. Ond i gwrthddweud y syniad bod rhaniad gwaith fesul oriau yn hollol annheg, mae’r dyn yn tebygol o wario tair awr yn garddio, lle mae’r fenyw yn treulio dim ond dau awr.

Mae’r Model Chwistrellid Hypodermig yn golygu bod y cyfryngau megis y teledu yn bwydo syniadau a chredoau i eich ymennydd heb chi sylweddoli. Gellir dadlau bod hysbysebion sy’n dangos cynhyrchion glanhau gan amlaf yn dangos menywod sy’n defnyddio’r cynnyrch, felly gall hyn dylanwadu’r gynulleidfa i gredu bod hyn yw’r norm, sy’n profi anghydraddoldeb llwyr. Er bod y ddeddfau y cyn-Prif Weinidog yn ceisio gwella’r sefyllfa, wrth cael babi mae’r cyfnod mamolaeth bant o’r swydd yn llawer iawn yn hirach na’r cyfnod tadolaeth. Felly mae’n annog i’r fenyw i chymryd cyfrifoldeb dros y plant ac y ddyn i mynd allan i weithio i ennill y gyflog. Hefyd mae yna credoau ystrydebol fel, ‘I don’t think it’s mannish for a man to stay at home, I like a man to be a man’, yn bodoli yn y cymdeithas cyfoes, gellir dadlau nid yw cydraddoldeb mewn perthnasau yn bodoli oherwydd mae pobl yn parhau i eisiau ymddygiad hen-ffasiwn i barhau.

Yn ôl Morgan (1994) mae ‘llai o gyfrifoldeb ar y Wladwraeth Les a mwy o bwysau ar yr ofalwyr’, felly gan fod menywod arfer bod yn gyfrifol am yr henoed â’r sâl, maent yn cael eu gorfodi nôl i’r tŷ i ofalu am yr henoed, gan gynnwys ei blant. Mae Sheeran (1993) yn nodi bod gan ddynion mwy o rolau ‘gyfrifoldeb’ yn hytrach na rolau ‘cynnal’ fel gwaith domestig, gan gynnwys y safbwynt bod pobl yn ystyried gwaith y fenyw yn eilradd oherwydd fel arfer y dyn yw’r ‘Breadwinner’, ac yn ennill y rhan fwyaf, neu’r holl arian, sy’n ymharu â’r statws y fenyw oherwydd mae mwy o’r barch yn mynd i’r ddyn sy’n uwcholeio’r anghydraddoldeb.

Mae Graham Allan (1985) yn dadlau yn erbyn bodolaeth perthnasoedd cydradd gan dweud bod menywod sydd mewn perthnasoedd yn o dan anfantais oherwydd y ‘fframwaith cymdeithasol o normau a gwerthoedd sydd yn eu cyfyngu’ felly mae’r ffaith bod dynion yn uwchraddol i fenywod yn hanesyddol a thraddodiadol heb wedi newid llawer, er bod llawer iawn o bobl yn gyflym i gwrthddweud hyn. Felly mae normau a gwerthoedd hen-ffasiwn yn stopio perthnasoedd rhag bod yn gydradd. I ehangu ar y ffactor o osod agenda a phŵer ideolegol, mae Stephen Lukes (1974) yn honni’r ‘second force of power’, mae’r angenion a chredoau yn fwy dylanwadol na rhai’r fenyw. ‘Husbands will usualy set the agenda for marital debate…’, felly, er enghraifft, os yw dull i wella’r prosbectau o yrfa gŵr, bydd hyn yn esiampl ble mae penderfyniadau mawr yn cael ei codi. Felly mae hyn yn atgyfnerthu anghydraddoldeb oherwydd mae llawer iawn o benderfyniadau enfawr n cael ei ystyried i ffitio cyhoeddusrwydd y dyn.

Felly ar y cyfan mae llawer iawn o ddadleuon o blaid ac yn erbyn y safbwynt. Mae cymdeithasegwyr fel Young a Wilmot, Coltrane ac Ishii-Kuntz yn dadlau o blaid cydraddoldeb mewn perthnasoedd ac mae pobl megis Christine Delphy, Ann Oakley, Edgell, Hochschild, Brayfield a Rapoport a Rapoport yn dadlau bod anghydraddoldeb o ran perthnasoedd yn parhau i bodoli yn ein cymdeithas cyfoes am amrywiaeth o resymau megis syniadau traddodiadol dal yn bodoli, neu normau a gwerthoedd dal yn gweld menywod yn israddol i dynion.

Advertisements

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s